Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.45 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Lara Date (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil Cymwysterau Cymru yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Cynigiodd y Llywodraeth gynnal Cyfnod 4 Bil Cymwysterau Cymru ar unwaith ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.48. Nododd y Rheolwyr Busnes fod hwn yn benderfyniad i'r Llywydd ac y byddai'n gwneud penderfyniad ar ddiwedd trafodion Cyfnod 3. Os bydd y Llywydd yn penderfynu caniatáu cynnig Cyfnod 4 i basio'r Bil, ar ôl i drafodion Cyfnod 3 gael eu cwblhau'n llwyddiannus, bydd pleidlais yn cael ei chynnal ar unwaith ar y cynnig Cyfnod 4 gan mai dyna'r eitem olaf o fusnes.
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y trafodion am ddeng munud cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3.
Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Nododd y Rheolwyr Busnes nad oedd y Llywodraeth wedi trefnu amser ar gyfer datganiad llafar ar ad-drefnu llywodraeth leol ar amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf, gan ofyn a allai'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ystyried blaenoriaethu gwneud datganiad llafar yn ystod yr wythnos ganlynol. Cytunodd y Gweinidog i ystyried y mater.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Roedd y Rheolwyr Busnes am gael eu hatgoffa ynghylch y terfyn amser i gyflwyno cynigion ar gyfer y Ddadl gan Aelodau Unigol, a drefnwyd ar gyfer 8 Gorffennaf. Cafodd y Rheolwyr Busnes wybod y byddai Clerc y Swyddfa Gyflwyno yn anfon neges e-bost at yr Aelodau i roi manylion am gyflwyno cynigion, ond yn y cyfamser, byddai'r Clerc yn anfon neges e-bost ar wahân ar ôl y cyfarfod i gadarnhau'r terfyn amser.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2015
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
3.4 Amserlen y Cynulliad
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar Amserlen y Pwyllgor ar gyfer 2015-16, gan ddechrau ar 14 Medi 2014 yn ôl trefn wythnos 1.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes ddyddiadau toriad y gwanwyn yn 2016, ond cytunwyd y byddai dyddiadau'r Pasg yn 2016 yn parhau'n amodol am y tro ac y byddent yn cael eu hadolygu tua diwedd y flwyddyn.
Nododd y Rheolwyr Busnes y rhestr o Gwestiynau Llafar i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer 2015-16, a chytunodd ar yr amserlen ar gyfer Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Byddai Gweinidog Busnes y Llywodraeth yn rhoi rhestr lawn o'r dyddiadau ar gyfer cwestiynau i Weinidogion unigol i'r Rheolwyr Busnes.
4 Deddfwriaeth
4.1 Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru)
Gohiriwyd y drafodaeth ynghylch yr eitem hon tan y cyfarfod yr wythnos ganlynol, er mwyn aros tan y bydd Llywodraeth Cymru wedi trafod â llefarwyr y pleidiau.